|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
|
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
|
||||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 8 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Amser: |
09:05 - 10:42 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Tystion: |
|
David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi a Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp - Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
2.1 Holodd y Pwyllgor David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi a Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG.
Camau i'w cymryd
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu data cronnol yn nodi nifer y ceisiadau sy'n cael eu prosesu, lefelau clirio a nifer yr heriau a wneir i ganlyniadau.
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu dadansoddiad manwl o'r achosion a gofnodwyd cyn 2010 ac ers hynny.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
4 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a chytunodd i ystyried y wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru pan fyddai'n dod i law ac i ysgrifennu adroddiad. Cytunwyd hefyd i wahodd David Sissling yn ôl i'r Pwyllgor yn ystod tymor yr haf 2014 i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y fframwaith.
5 Penodi Aelodau a Chadeirydd anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
5.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd ag argymhellion y panel.
5.2 Cyhoeddir yr Adroddiad ar 9 Hydref 2013.